Cymru - Y Genedl sy'n Croesawu Cwpan Ryder 2010

Canolbarth Cymru

Sut y mae Cwpan Ryder o Fudd i Ganolbarth Cymru

Aberdovey
Aberdovey

Mae'r effaith gadarnhaol ledled y wlad sy'n deillio o gynnig llwyddiannus Cymru am Gwpan Ryder 2010 wedi cyrraedd pob cornel o Ganolbarth Cymru yn barod ac all yr effeithiau buddiol ddim ond cynyddu wrth i'r ornest ddod yn nes.

Mae twristiaeth golff yn datblygu’n dda iawn ac mae Clybiau Golff Canolbarth Cymru, gyda chymorth Croeso Cymru, wedi ffurfio clwstwr ‘Calon Cymru’ â’r bwriad o sicrhau eu bod yn cael cymaint â phosibl o refeniw o dwristiaeth. Hyd yma, mae cyfanswm gwerth yr archebion y mae’r clwstwr wedi’i sicrhau er 2006 yn fwy na £471,000 a daw archebion ymlaen llaw ar gyfer 2010 eisoes i oddeutu £40,000 yn ôl yr amcangyfrif.

"Diolch i effaith sylw Cwpan Ryder, ymddangosodd Clwb Golff Aberdyfi yn y 100 cwrs mwyaf blaenllaw y tu allan i'r UD"

Plant yn dysgu golff
Plant yn dysgu golff

Y wireb: mae'r hyn sy'n dda i golff yn dda i fusnes yn amlwg yn gymwys yng Nghanolbarth Cymru!

Mae'r hyn sy'n dda i chwaraewyr profiadol ac ymwelwyr hefyd yn effeithio ar ein golffwyr gobeithiol. Dewch o hyd i fentrau egnïol ym mhob rhanbarth yng Nghanolbarth Cymru sy'n denu'r genhedlaeth nesaf at golff. Cynhelir cynlluniau Tri-Golff mewn ardaloedd o Aberystwyth i Ystradgynlais, tra bod cyllid ar gyfer hyfforddi Merched sy'n ddechreuwyr nawr ar gael yng Nghlwb Golff Aberteifi. Mae'r awdurdod lleol ym Mhowys wedi llwyddo i ddiogelu grant 'Chwaraeon Cymru' i redeg cynllun lle ffurfir cysylltiadau chwarae a hyfforddi rhwng pum clwb ym Mhowys a'u hysgolion uwchradd lleol.

Clwb Golff Builth Wells
Clwb Golff Builth Wells

Ychydig o'r cyfleoedd yn unig yw'r rhain a gymerir i gryfhau twristiaeth, yr economi a golff yng Nghanolbarth Cymru a throi tri diwrnod o golff o'r radd flaenaf yn 2010 yn asedau parhaol.