Cymru - Y Genedl sy'n Croesawu Cwpan Ryder 2010

Cwpan Ryder 2010

Eich taith i Gwpan Ryder 2010.

Dyddiadau'r twrnamaint – 1af – 3ydd Hydref 2010

Celtic Manor Resort
Celtic Manor Resort

I'r rhai sydd yn hoff iawn o golff, dim ond un lle y gallwch fod ym mis Medi 2010. Gwesty'r Celtic Manor ar gyrion Casnewydd yn Ne Cymru. Pam? Y rheswm gorau yn y calendr golffio wrth gwrs. Y Cwpan Ryder gwych.

Y Celtic Manor yw un o westai golff a busnes mwyaf blaenllaw Ewrop, gyda thri chwrs o'r radd flaenaf, tŷ clwb gwerth £10 miliwn ac academi golff wedi'i lifoleuo. Mae'n gartref addas ar gyfer yr hyn sy'n cael ei ystyried nawr yn drydydd digwyddiad chwaraeon mwyaf y byd a bydd yn ganolbwynt i filiynau o bobl sy'n frwdfrydig ynghylch golff o fwy na 100 o wledydd ar draws y byd.

Twenty Ten course
Twenty Ten course

Er mwyn mwynhau Cwpan Ryder 2010 yng Ngwesty'r Celtic Manor yn llawn, mae angen gwybodaeth glir ac ymarferol arnoch am bob agwedd o'r digwyddiad, y lleoliad ac am brynu tocynnau. Gallwch gysylltu'n uniongyrchol â'r gwefannau sydd eu hangen arnoch o fan hyn, a threfnu'r pethau ymarferol mewn ychydig o gliciau. Yna gallwch ymlacio ac edrych ymlaen at fod yno i gael gweld y chwaraewyr gorau o Ewrop ac UDA yn brwydro a mwynhau awyrgylch yr ornest ddwyflynyddol wefreiddiol hon.

 

"Pam aros tan 2010 i ddarganfod gwobrau amrywiol a chyfoethog golff yng Nghymru? Mae oddeutu 200 o gyrsiau braf ar draws y wlad, yn aros i gael eu chwarae!"