Mae Cwpan Ryder Cymru bob amser wedi bod am lawer mwy na digwyddiad tridiau yn 2010. Fel ymrwymiad i'n cynnig Cwpan Ryder llwyddiannus, rydym yn trefnu Haf o Golff blynyddol, sydd wedi trawsffurfio'r calendr golffio ledled Cymru.
Mae Haf Golff 2010 Cwpan Ryder Cymru yn rhaglen o'r radd uchaf gyda digwyddiadau golffio ar draws y wlad drwy fisoedd yr haf. Eleni bydd gemau Taith Ewropeaidd a Thaith Ewropeaidd Menywod yn cynnwys Cystadleuaeth Agored Celtic Manor Cymru, Cystadleuaeth Chwaraewyr Hyn Cwpan Ryder Cymru a Phencampwriaeth Menywod Ewrop Cymru. Mae'r digwyddiadau hyn yn denu chwaraewyr o'r radd flaenaf yn argoeli bod yn dymor gwych o chwaraeon.
Pencampwriaeth PGA Agored i Chwaraewyr Ifanc Proffesiynol Cwpan Ryder Cymru
12 - 13 Mai - Clwb Golff Southerndown
Cystadleuaeth Agored Cymru Celtic Manor
3 - 6 Mehefin - Cyrchfan y Celtic Manor, Casnewydd
Cystadleuaeth Agored Chwaraewyr Hyn Cwpan Ryder
18 - 20 Mehefin - Clwb Golff Brenhinol Porthcawl, Porthcawl
Pencampwriaeth PGA Agored Cymru Cwpan Ryder Cymru 2010
29 Mehefin – 1 Gorffennaf - Clwb Golff Ashburnham, Sir Gaerfyrddin
Pencampwriaeth S4/C Merched Ewrop
12 - 15 Awst - Clwb Golff Conwy, Conwy
Her SWALEC Cymru
25 - 28 Gorffennaf - Gwesty, Cyrchfan Golff a Sba Y Fro, Bro Morgannwg
Pencampwriaeth PGA Cenedlaethol Cymru Cwpan Ryder Cymru 2010
31 Awst - 2 Medi - Clwb Golff Brenhinol Dewi Sant, Harlech