Gweithredir y safle hwn gan [Cwpan Ryder Cymru 2010 Cyf.]. Mae'r Datganiad Preifatrwydd hwn yn amlinellu'r ffordd y mae Cwpan Ryder Cymru 2010 Cyf. ("ni") yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth yn cyfeirio atoch chi, defnyddiwr safle Cwpan Ryder Cymru 2010 Cyf ("chi").
Drwy ddefnyddio'r safle hwn, rydych chi yn cytuno i ddefnyddio (yn cynnwys trosglwyddo) yr wybodaeth fel a ddisgrifir islaw.
Rydym ni yn casglu'r wybodaeth ddilynol gan ymwelwyr i'n gwefan: gwybodaeth megis cyfeiriadau IP a gwybodaeth yn cyfeirio at ba dudalennau yr edrychwyd arnynt (e.e. gan ddefnyddio cwcis fel a ddisgrifir ymhellach islaw) a gwybodaeth yr ydych chi wedi ei rhoi'n wirfoddol (e.e. drwy ffurflenni cofrestru ar-lein ac oddi ar lein), megis manylion cyswllt, cyfeiriad e-bost ac os ydych chi wedi dewis cyfathrebiadau yn y dyfodol gan Gwpan Ryder Cymru 2010 Cyf.
Defnyddiwn ni yr wybodaeth a gasglwn ar y wefan i'n helpu i ddeall sut y mae'r wefan yn cael ei defnyddio a'n galluogi ni i gyfathrebu gyda chi. Bydd gwybodaeth yn ein galluogi i gyfathrebu gyda chi ar unrhyw fater yn cyfeirio at weithgareddau Cwpan Ryder Cymru 2010 Cyf, yn cynnwys darpariaeth gennym ni neu drydydd parti dethol o wybodaeth berthnasol, nwyddau a/neu wasanaethau y credwn y medrech chi fod â diddordeb ynddynt os nad ydych wedi dewis peidio derbyn gwybodaeth o'r fath. Medrir trosglwyddo gwybodaeth i drydydd parti ac yn rhyngwladol (yn cynnwys i wledydd heb gyfreithiau diogelu data) ar gyfer y dibenion uchod.
Fe fedrwch chi (yn amodol ar dalu ffi priodol) ofyn am gopi o wybodaeth a gedwir amdanoch chi ar unrhyw amser drwy gysylltu â info@rydercupwales2010.com. Pe byddai gweithgareddau Cwpan Ryder Cymru 2010 Cyf yn cael eu trosglwyddo i neu eu hintegreiddio gyda gweithrediad arall, gall eich manylion gael eu datgelu i'n cynghorwyr a throsglwyddydd gweithgareddau Cwpan Ryder Cymru 2010 Cyf.
Mae Cwpan Ryder Cymru yn defnyddio cwcis. Mae cwci yn ffeil fechan yn cynnwys cod adnabod. Mae eich cyfrifiadur yn derbyn y cwci ac yn ei gadw a'r tro nesaf yr ymwelwch â'r wefan, caiff y cod ei adalw gan ei gwneud yn bosibl adnabod ymwelwyr neu gyfrifiaduron unigol. Caiff cwcis eu defnyddio ar gyfer amrywiaeth o bwrpasau yn cynnwys tudalennau gwe personol ac adnabod eich dewis iaith Nid yw cwcis yn achosi anaf i'ch cyfrifiadur ond os ydych eisiau rhwystro eich cyfrifiadur rhag derbyn cwcis, ewch i adran help eich porwr Rhyngrwyd (e.e. Internet Explorer neu Netscape) lle cewch wybodaeth ar sut i wneud hyn.
Mae'n ofyniad i Gwpan Ryder Cymru 2010 Cyf i sicrhau fod y data personol a brosesir arno yn derbyn diogeledd priodol. Er y byddwn yn ateb y gofyniad hwn, ni fedrwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled, amhariad neu ddifrod i'ch data neu eich system gyfrifiadur a all ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd yn deillio o'r wefan hon. Fel arfer gorau, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn rhedeg rhaglen gwrth-firws yn rheolaidd ar bob deunydd a lawrlwythir o'r Rhyngrwyd.
Os yw unrhyw ran o'r wybodaeth yr ydych wedi ei darparu i ni yn newid, er enghraifft, os ydych yn newid eich cyfeiriad e-bost neu enw neu os dymunwch ganslo eich cofrestriad, gofynnir i chi adael i ni wybod drwy anfon e-bost at info@rydercupwales2010.com neu drwy anfon llythyr at Cwpan Ryder Cymru 2010, Ty Brunel, 2 Ffordd Fitzalan, Caerdydd, CF24 0UY. Bydd pob cyfathrebiad e-bost gan Gwpan Ryder Cymru yn cynnwys cyfleuster dad-danysgrifio.
Gall ein gwefan gynnwys cysylltau i wefannau eraill sydd tu allan i'n rheolaeth ac na ddeuant o fewn y Polisi Preifatrwydd hwn. Os cyrchwch safleoedd eraill yn defnyddio'r cysylltau a roddwyd, gall gweithredwyr y safleoedd hyn gasglu gwybodaeth gennych a gaiff ei defnyddio ganddynt yn unol â'u polisi preifatrwydd, a all fod yn wahanol i'n polisi ni.
Os newidiwn ein Polisi Preifatrwydd, byddwn yn postio'r newidiadau ar y dudalen hon, a medrwn ddodi hysbysiadau ar dudalennau eraill y wefan, fel y medrwch fod yn gwybod am yr wybodaeth a gasglwn a sut y'i defnyddiwn ar bob amser. Byddwn hefyd yn anfon neges e-bost atoch os gwnawn unrhyw newidiadau, fel y medrwch ganiatáu i ni ddefnyddio eich gwybodaeth yn y ffordd honno. Bydd parhau i ddefnyddio'r gwasanaeth yn arwydd eich bod yn cytuno i unrhyw newidiadau o'r fath.
Croesawn eich sylwadau am ein gwefan a'n polisi preifatrwydd. Os hoffech i ni gysylltu â chi gydag unrhyw ymholiadau neu sylwadau, anfonwch e-bost at info@rydercupwales2010.com os gwelwch yn dda.